Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 4 Tŷ Hywel a
fideogynadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Mercher, 31 Ionawr 2024
Amser:
09.30 -
11.50
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13659
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Llyr Gruffydd AS (Cadeirydd) Janet Finch-Saunders AS Huw Irranca-Davies AS Delyth Jewell AS Jenny Rathbone AS Joyce Watson AS |
Tystion: |
Jenifer Baxter, Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol i Gymru Dr David Clubb, Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol i Gymru |
Staff y Pwyllgor: |
Marc Wyn Jones (Clerc) Elizabeth Wilkinson (Ail Glerc) Mahima Khan (Dirprwy Glerc) Masudah Ali (Cynghorydd Cyfreithiol) Francesca Howorth (Ymchwilydd) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod.
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gadeirydd a Dirprwy Gadeirydd y Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol i Gymru.
3.1 Cafodd y papurau eu nodi.
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitem 2.
6.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft, ac yn amodol ar fân newidiadau, cytunodd arno.
7.1 Cafodd y Pwyllgor bapur briffio cyfreithiol ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Cerbydau Awtomataidd.
8.1 Trafododd y Pwyllgor faterion yn ymwneud â thrafodion Cyfnod 2.
8.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 26.21, cytunodd y Pwyllgor i amrywio trefn y broses ystyried ar gyfer trafodion Cyfnod 2 ar Bil Seilwaith (Cymru), ac i ystyried adrannau’r Bil yn y drefn a ganlyn:
Adrannau 1-60; Atodlen 1; Adrannau 61-90; Atodlen 2; Adrannau 91-142; Atodlen 3; Teitl Hir.